[csaa-forum] Language and Voice - Call for Papers and Presentations of Practice - Deadline: 20th February 2015
Antonio Traverso
A.Traverso at curtin.edu.au
Thu Jan 15 14:52:36 ACST 2015
Call for Papers and Presentations of Practice
Journal of Media Practice and MeCCSA Practice Network Symposium
Language and Voice
13th June 2015
Arts Centre, Aberystwyth University, Wales
Deadline for proposals: 20th February 2015
This one-day symposium will bring together researchers and practitioners to discuss current issues and debates in practice-based research, practice-as-research and theoretically-informed practice.
Guest Speaker: Viktor Kossakovsky (TBC)
(Mr. Kossakovsky has informally accepted our invitation, and will confirm formally at the end of February once his summer shooting schedule is finalised)
Language and Voice are not meant literally of course, and we encourage both literal and formal explorations of the symposium theme. Possible topic areas include:
· Authorial voice
· Authorship in media practice
· Film and video language
· Post-human and meta-human voices
· Screen technique
· Audience and interpretation
· Voice and technology
· Production (and environmental) sustainability
· Artists’ film and video
· Documentary aesthetics and ethics
· Transmedia/multiplatform narratives
· New or unexplored filmmakers, artists and practitioners
We are particularly keen to welcome presentations that engage with minority language media practice.
We would also warmly welcome papers and presentations that engage with pedagogic aspects of practice-based teaching and learning in media, as well as methodological approaches to practice-led research and practice-based research.
Papers/Presentations
We invite papers/presentations of 20 minutes from academics, postgraduate researchers, filmmakers, media artists, and practitioners which may include film and video practice, documentary, experimental media, art practice, multiplatform and multimedia production, digital technologies, screen media, film studies, media and cultural studies, and associated fields and subject areas.
Panels
Proposals for panels of 3x20 minute papers/presentations are also very welcome. If you wish to present in collaboration with colleagues on specific topic areas, please indicate this in the subject header of the email – details below – and include all individual proposals collectively in one email.
Screenings/Presentations of Practice
During the event, we will exhibit and screen creative practice work. If you would like to show your work, please send a 250-word description of the work by the deadline, including the supplementary information (see below).
Proposals will be accepted in Welsh or English. Welsh-English translation will be provided during the symposium. We also welcome proposals in other minority languages and will attempt to arrange simultaneous translation, although we cannot guarantee that this will be possible.
Please send your proposal as a Word or PDF by Friday 20th February 2015 to mepstaff at aber.ac.uk<mailto:mepstaff at aber.ac.uk>, including the following information:
· author(s)
· affiliation
· email address
· title of proposal
· proposal or work outline (not more than 250 words)
· biography (not more than 50 words)
Please title your e-mail as either: 1) Language Voice Proposal; 2) Language Voice Panel Proposal; or 3) Language Voice Work Only (for those wanting to show creative work only).
Receipt of all proposals will be acknowledged. If you have not received a reply within 2 weeks of sending your email, please assume that we have not received your proposal and contact us again.
This symposium is hosted by the Film and Television Research Group in the Department of Theatre, Film and Television at the University of Aberystwyth, Wales, and is supported by the Journal of Media Practice and MeCCSA Practice Network.
Organisers: Greg Bevan, Rebecca Edwards and Tom Alcott
Galwad am bapurau a chyflwyniadau ymarferol
Symposiwm Journal of Media Practice a MeCCSA Practice Network
Iaith a Llais
13 Mehefin 2015
Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth
Dyddiad Cau: 20fed Chwefror 2015
Bydd y symposiwm undydd yma yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd i drafod materion a dadleuon cyfredol ynghylch ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer ac ymarfer fel ymchwil.
Siaradwr Gwadd: Viktor Kossakovsky
(Mae Mr. Kossakovsky wedi derbyn ein gwahoddiad yn anffurfiol, a bydd yn cadarnhau yn ffurfiol ar ddiwedd mis Chwefror ar ôl cwblhau ei amserlen saethu ar gyfer yr haf.)
Ystyrir Iaith a Llais y tu hwnt i ddehongliadau llythrennol, ac rydym yn annog archwiliadau llythrennol a ffurfiol o thema’r symposiwm. Mae pynciau posib yn cynnwys:
· Llais awdurol
· Awduraeth ymarfer cyfryngol
· Iaith ffilm a fideo
· Techneg sgrin
· Llais a thechnoleg
· Cynhyrchu (a
· Cynulleidfaoedd a dehongliadau
· Cynaliadwyedd cynhyrchu (ac amgylcheddol)
· Lleisiau ôl-dynol a meta-dynol
· Ffilm a fideo gan artistiaid
· Estheteg a moeseg ffilmiau dogfen
· Naratifau trawasgyfryngol/amlblatfform
· Gwneuthurwyr ffilmiau, artistiaid ac ymarferwyr newydd, neu rhai na archwiliwyd hyd yn hyn
Rydym yn arbennig o awyddus i groesawu cyflwyniadau sy'n ymwneud ag arferion neu ymarfer cyfryngau ieithoedd lleiafrifol.
Byddem hefyd yn croesawu yn gynnes papurau a chyflwyniadau sy'n ymdrin ag agweddau pedagogaidd o addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer, yn ogystal â dulliau methodolegol ymarfer fel ymchwil ac ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer.
Papurau/Cyflwyniadau
Rydym yn gwahodd papurau/cyflwyniadau o 20 munud gan academyddion, ymchwilwyr ôl-raddedig, gwneuthurwyr ffilmiau, artistiaid, ac ymarferwyr all gynnwys ymarfer ffilm a fideo, rhaglenni a ffilmiau dogfen, cyfryngau arbrofol, ymarfer celf, cynhyrchu amlblatfform ac amlgyfrwng, technolegau digidol, cyfryngau sgrîn, astudiaethau ffilm, astudiaethau cyfryngau a diwylliant, a meysydd cysylltiedig.
Paneli
Mae croeso mawr hefyd i gynigion ar gyfer paneli o 3 x papur/cyflwyniad o 20 munud yr un. Os ydych yn dymuno cyflwyno ar y cyd â chydweithwyr ar feysydd pwnc penodol, nodwch hynny ym mhemnawd eich e-bost - manylion isod – a chynnwys yr holl gynigion unigol gyda'i gilydd mewn yr un e-bost.
Dangosiadau / Cyflwyniadau Ymarfer
Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn arddangos ac yn sgrinio gwaith creadigol. Os hoffech ddangos eich gwaith, anfonwch ddisgrifiad o’r gwaith (dim mwy na 250 o eiriau) erbyn y dyddiad cau, gan gynnwys yr wybodaeth atodol (gweler isod).
Bydd cynigion yn cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd cyfieithu Cymraeg-Saesneg yn cael ei ddarparu yn ystod y symposiwm. Rydym hefyd yn croesawu cynigion mewn ieithoedd lleiafrifol eraill a bydd yn ceisio trefnu cyfieithu ar y pryd, er na allwn warantu y bydd hyn yn bosibl.
Anfonwch eich cynnig fel dogfen Word neu PDF erbyn dydd Gwener 20fed o fis Chwefror 2015 i mepstaff at aber.ac.uk<mailto:mepstaff at aber.ac.uk>, gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
· awdur(on)
· prifysgol neu sefydliad arall
· cyfeiriad e-bost
· teitl y cynnig
· amlinelliad y cynnig neu’r gwaith (dim mwy na 250 o eiriau)
· bywgraffiad (dim mwy na 50 o eiriau)
Ysgrifennwch teitl eich e-bost fel naill ai: 1) Llais Iaith Papur; 2) Llais Iaith Panel; neu 3) Llais Iaith Gwaith yn Unig (ar gyfer y rhai sydd am ddangos gwaith creadigol yn unig) os gwelwch yn dda.
Bydd pob cynnig yn cael ei gydnabod. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn 2 wythnos ar ôl danfon eich e-bost, cymerwch yn ganiataol nad ydym wedi derbyn eich cais a chysylltwch â ni eto os gwelwch yn dda.
Cynhelir y symposiwm gan Grŵp Ymchwil Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, Cymru, ac fe'i cefnogir gan y Journal of Media Practice a’r MeCCSA Practice Network.
Trefnwyr: Greg Bevan, Rebecca Edwards a Tom Alcott
More information about the csaa-forum
mailing list